Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Y Boccia Blasters

Gweithgareddau:

Boccia

Aelodaeth:

Parlys Serebral, Defnyddwyr Cadair Olwyn Trydan, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, PMLD

Cyfeiriad Clwb:
Fitzalan High School Sports Facility
Lawrenny Avenue, Leckwith
Cardiff

029 2062 8359 Deborah Martin


Y Boccia Blasters

Mae’r Boccia Blasters yn darparu sesiynau ar gyfer pobl sydd eisiau chwarae boccia am hwyl a’r rhai sydd eisiau cystadlu. Cynhelir y sesiynau ar nosweithiau Llun bob wythnos, rhwng 5.30pm a 6.30pm.

Mae boccia’n gamp Baralympaidd ac yn debyg i fowlio dan do.  Mae’r chwaraewr yn ceisio cael ei beli boccia’n nes at y jac na’r chwaraewyr eraill.Gall y chwaraewyr rolio, taflu neu gicio’r peli.  Gall y chwaraewyr ddefnyddio dyfeisiadau i’w cynorthwyo hefyd os ydynt yn dymuno, fel ramp neu atodion pen, os nad ydynt yn gallu symud y bêl yn ddigonol hebddynt.  

Mae’r clwb hwn yn darparu ar gyfer oedolion a phlant sy’n defnyddio cadair olwyn ac, yn arbennig, y rhai gyda dystroffi’r cyhyrau, parlys yr ymennydd ac anableddau tebyg eraill.