Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Anheddau Awyr Agored

Gweithgareddau:

Abseilu, Dringo, Gweithgareddau Awyr Agored, Cerdded

Aelodaeth:

Trafferthion Ymddygiad, Byddar / Trwm Eich Clyw, Anabledd Dysgu, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), Amhariad Weledol

Cyfeiriad Clwb:
Sackville Road
Bangor
LL57 1LB

07802 203930

martin@anheddau.co.uk


Anheddau Awyr Agored

Dyma glwb gweithgareddau awyr agored ar gyfer oedolion gydag anghenion cefnogi a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Mae’n cynnig cerdded ar fryniau ac ar yr arfordir ar hyn o bryd, a dringo ac abseilu. 

Y Staff: Mae gan y prosiect griw o hyfforddwyr gweithgareddau awyr agored profiadol a chymwys i’w defnyddio ac mae gan bob un ohonynt brofiad o weithio gyda phobl ag anghenion cefnogi, gan feddu ar gymwysterau priodol y CRhC ar gyfer y gweithgareddau a gynhelir.

Beth sy’n cael ei gynnwys?

Rydym yn darparu’r holl offer arbenigol sydd ei angen ac mae gennym amrywiaeth o ddillad dal dŵr sylfaenol, esgidiau cerdded a bagiau cefn sydd ar gael i’w benthyg.                                    

CERDDED 

Mae’r clwb yn cyfarfod am 1).00am bob dydd Mercher ar gyfer gweithgareddau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Eryri a’r ardal o amgylch. Cost: £10 y sesiwn.

DRINGO   

Mae’r clwb hefyd yn cyfarfod ar brynhawn dydd Mercher ar gyfer gweithgareddau dringo (os yw’r tywydd yn caniatáu).  Os bydd tywydd ansefydlog Cymru’n ei gwneud yn anymarferol i ni fynd i ddringo, mae gennym ein wal ddringo fechan dan do y gallwn ei defnyddio. Cost: £10 y sesiwn.  

Am fanylion pellach cysylltwch â Martin Jones ar: 07802 203930 neu e-bost martin@anheddau.co.uk